2015 Rhif 1822 (Cy. 264)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Penderfynu ar Apelau gan Bersonau Penodedig) (Dosbarthau Rhagnodedig) (Cymru) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli, gyda rhai newidiadau, Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Penderfynu ar Apelau gan Bersonau Penodedig) (Dosbarthau Rhagnodedig) 1997, o ran Cymru.

Mae rheoliad 3 yn rhagnodi’r dosbarthau o apelau a wneir o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 a Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 sydd i’w penderfynu gan bersonau a benodir gan Weinidogion Cymru, yn hytrach na’u penderfynu gan Weinidogion Cymru.

Mae rheoliad 4 yn rhagnodi dosbarthau penodol o achosion, o fewn y dosbarthau o apelau a ragnodir o dan reoliad 3, sydd i barhau i gael eu penderfynu gan Weinidogion Cymru.

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth am gyhoeddi unrhyw gyfarwyddyd a wneir gan Weinidogion Cymru sy’n pennu’r dosbarthau o achosion, o fewn y dosbarthau o apelau yn rheoliad 3, sydd i’w penderfynu gan Weinidogion Cymru.

Mae rheoliad 6 yn gwneud darpariaeth dirymu ac arbed.

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n gymwys i’r Rheoliadau hyn ar gael gan Lywodraeth Cymru yn: Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru.

 


2015 Rhif 1822 (Cy. 264)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Penderfynu ar Apelau gan Bersonau Penodedig) (Dosbarthau Rhagnodedig) (Cymru) 2015

Gwnaed                                20 Hydref  2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       26 Hydref 2015

Yn dod i rym                        16 Rhagfyr 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 333 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990([1]) a pharagraff 1 o Atodlen 6 iddi, adran 93 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990([2]) a pharagraff 1 o Atodlen 3 iddi ac adran 40 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990([3]) a pharagraff 1 o’r Atodlen iddi, sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy([4]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Penderfynu ar Apelau gan Bersonau Penodedig) (Dosbarthau Rhagnodedig) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 16 Rhagfyr 2015.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y brif Ddeddf” (“the principal Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;

ystyr “y Ddeddf Adeiladau Rhestredig” (“the Listed Buildings Act”) yw Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990;

ystyr “y Ddeddf Sylweddau Peryglus” (“the Hazardous Substances Act”) yw Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990;

ystyr “Rheoliadau 1997” (“the 1997 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Penderfynu ar Apelau gan Bersonau Penodedig) (Dosbarthiadau Rhagnodedig) 1997([5]);

ystyr “Rheoliadau 2009” (“the 2009 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009([6]); ac

ystyr “ymgymerwyr statudol” yw ymgymerwyr statudol o fewn yr ystyr a roddir i “statutory undertakers” yn adran 262 o’r brif Ddeddf a phersonau eraill y bernir eu bod, yn rhinwedd is-adran (3) neu (6) o’r adran honno([7]), yn ymgymerwyr statudol at ddibenion adran 266 o’r Ddeddf honno.

Dosbarthau o apelau sydd i’w penderfynu gan bersonau penodedig

3.(1)(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 4, mae’r dosbarthau o apelau a ganlyn wedi eu rhagnodi at ddibenion paragraff 1(1) o Atodlen 6 i’r brif Ddeddf fel apelau sydd i’w penderfynu gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru—

(a)     apelau o dan adran 78 o’r brif Ddeddf (apelau yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath), gan gynnwys apelau o dan yr adran honno fel y’i cymhwysir gan reoliad 15 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992([8]) (apelau yn erbyn gwrthod cais am gydsyniad datganedig i arddangos hysbysiad neu fethiant i wneud penderfyniad ar gais o’r fath) ac apelau o dan yr adran honno fel y’i cymhwysir gan adran 198(3)(c) a (4) o’r brif Ddeddf (apelau yn ymwneud â gorchmynion cadw coed);

(b)     apelau o dan adran 174 o’r brif Ddeddf (apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi);

(c)     apelau o dan adran 195 o’r brif Ddeddf (apelau yn erbyn gwrthod cais am dystysgrif cyfreithlondeb defnydd neu ddatblygiad presennol neu arfaethedig neu fethiant i wneud penderfyniad ar gais o’r fath);

(d)     apelau o dan adran 208 o’r brif Ddeddf (apelau yn erbyn hysbysiadau adran 207– ailosod coed);

(e)     apelau o dan baragraff 11(1) o Atodlen 13 a pharagraff 9(1) o Atodlen 14 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995([9]) (apelau yn erbyn penderfynu ar amodau i’w hatodi i ganiatadau mwynau), gan gynnwys apelau o dan y darpariaethau hynny fel y’u cymhwysir gan reoliad 45 o Reoliadau 2009 (apelau yn erbyn methiant i benderfynu); ac

(f)      apelau o dan baragraff 5 o Atodlen 2 i Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991([10]) (apelau yn ymwneud â hen ganiatadau mwyngloddio), gan gynnwys apelau o dan y ddarpariaeth honno fel y’i cymhwysir gan reoliad 45 o Reoliadau 2009.

(2) Mae’r dosbarthau o apelau a ganlyn wedi eu rhagnodi at ddibenion paragraff 1(1) o Atodlen 3 i’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig fel apelau sydd i’w penderfynu gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru—

(a)     apelau o dan adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig (cydsyniad adeilad rhestredig), gan gynnwys apelau o dan yr adran honno sy’n cael effaith yn rhinwedd adran 74 o’r Ddeddf honno (ardaloedd cadwraeth); a

(b)     apelau o dan adran 39 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig (hysbysiadau gorfodi adeilad rhestredig), gan gynnwys apelau o dan yr adran honno sy’n cael effaith yn rhinwedd adran 74 o’r Ddeddf honno.

(3) Mae apelau o dan adran 21 o’r Ddeddf Sylweddau Peryglus (apelau yn erbyn penderfyniadau yn ymwneud â sylweddau peryglus neu fethiant i wneud penderfyniadau o’r fath) wedi eu rhagnodi at ddibenion paragraff 1(1) o’r Atodlen i’r Ddeddf Sylweddau Peryglus fel apelau sydd i’w penderfynu gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru.

Dosbarthau o apelau a gedwir yn ôl i’w penderfynu gan Weinidogion Cymru

4.(1)(1) Nid yw rheoliad 3 yn gymwys i’r dosbarthau o apelau a ganlyn—

(a)     apelau o dan adran 78 o’r brif Ddeddf gan ymgymerwyr statudol pan oedd y cais perthnasol yn ymwneud â thir y mae adran 266 o’r Ddeddf honno([11]) (ceisiadau am ganiatâd cynllunio gan ymgymerwyr statudol) yn gymwys;

(b)     apelau o dan adran 174 o’r brif Ddeddf gan ymgymerwyr statudol pan fo’r torri rheolaeth gynllunio a honnir yn yr hysbysiad gorfodi yn cynnwys ymgymryd â datblygiad ar dir y mae adran 266 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo, neu fethiant i gydymffurfio ag amod neu gyfyngiad sydd ynghlwm wrth roi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygu unrhyw dir o’r fath; neu

(c)     apelau y mae Gweinidogion Cymru neu’r Gweinidog priodol wedi rhoi cyfarwyddyd i adran 266 o’r brif Ddeddf gael effaith mewn perthynas â hwy (ac nad yw’r cyfarwyddyd wedi ei ddirymu). 

Cyhoeddusrwydd ar gyfer cyfarwyddydau

5.(1)(1) Os gwneir cyfarwyddyd o dan—

(a)     paragraff 1(2) o Atodlen 6 i’r brif Ddeddf;

(b)     paragraff 1(2) o Atodlen 3 i’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig; neu

(c)     paragraff 1(2) o’r Atodlen i’r Ddeddf Sylweddau Peryglus,

caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cynllunio lleol ar gyfer pob ardal y mae’r cyfarwyddyd yn cael effaith mewn cysylltiad â hi gyhoeddi hysbysiad o’r cyfarwyddyd mewn o leiaf un papur newydd sy’n cylchredeg yn yr ardal.

(2) Rhaid i’r hysbysiad gynnwys—

(a)     datganiad cryno o effaith y cyfarwyddyd; a

(b)     manylion ynghylch ble y gellir edrych ar gopi o’r cyfarwyddyd.

Dirymu ac arbed

6.(1)(1) Mae Rheoliadau 1997 wedi eu dirymu ac eithrio mewn perthynas ag apelau y rhoddwyd hysbysiad mewn cysylltiad â hwy cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

(2) Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn cysylltiad ag apelau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).

 

 

Carl Sargeant

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

20 Hydref 2015

 



([1])           1990 (p. 8); diwygiwyd paragraff 1 o Atodlen 6 gan baragraff 44 o Atodlen 22 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) a chan adran 198(1) a (2)(a) o Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29).

([2])           1990 (p. 9).

([3])           1990 (p. 10).

([4])           Trosglwyddwyd swyddogaethau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cofnod yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a gweler adran 118(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi.

 

([5])           O.S. 1997/420.

([6])           O.S. 2009/3342 (Cy. 293).

([7])           Diwygiwyd adran 262 gan O.S. 2001/1149, adran 76(7) o Ddeddf Cyfleustodau 2000 (p. 27), O.S. 2013/755 ac adran 37 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (p. 38) a pharagraff 6(1), (2), (3) a (4) o Atodlen 5 iddi, adrannau 31 ac 84 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34), a pharagraff 22 o Atodlen 6 a Rhan II o Atodlen 19 iddi.

([8])           O.S. 1992/666.

([9])           1995 (p. 25).

([10])         1991 (p. 34).

([11])         Diwygiwyd adran 266 o’r brif Ddeddf gan O.S. [insert Section 203 Order number when made] ac adrannau 32 ac 84 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34), a pharagraff 40 o Atodlen 7 a Rhan I o Atodlen 19 iddi.